Ymdeithydd wyf fi 'nawr o hyd, Mewn maith a thrallodedig fyd; Nid yma mae fy nghartre'n wir, Rwy'n teithio tu a Salem bur. Pa'm carai'r byd, na'i wagedd mwy, Hyd angau'n brin y deuant hwy; Gwell genny gara'r Ffrynd a ddaw, Yn angau i 'maflyd yn fy llaw. 'Rwy'n pwyso ar f'Anwylyd cu, Ei ddehau yn fy nghynnal sy; Pa ham y dof o'i gôl i maes, Nes elwy trwy'r Iorddonen lâs? Er maint yw llid a brad y ddraig, Fy nhraed osodwyd ar y graig; Mae Iesu'n hwylio ngherdded im', 'Chai mwyach gyfeiliorni dim.William Williams 1717-91 priodolwyd hefyd i | attributed also to John Dafydd 1727-1783 Tôn [MH 8888]: Portugal (Thomas Thorley) gwelir: Pa'm carai'r byd na'i wagedd mwy? Pererin wyf mewn anial dir (Sychedig ...) |
A traveller I am now still, In a vast and troubled world; Not here is my home truly, I am travelling towards pure Salem. Why would I love the world, or its vanity any more? As far as death they shall scarcely come; It is better for me to love the Friend that shall come, In death to take me by the hand. I am leaning on my dear Beloved, His right hand supports me; Why would I come out of his bosom, Until I come through the blue Jordan? Despite how great is the dragon's wrath and treachery, My feet were fixed on the rock; Jesus is directing my walk for me, And I shall not get to stray any more.tr. 2021 Richard B Gillion |
|